Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 


Gwasanaeth bilio electronig

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau wasanaeth bilio electronig Saesneg i ddeiliaid cyfrifon credyd. Gall cwsmeriaid gael cyfriflenni, anfonebau a nodiadau credyd yn electronig trwy adran lawrlwytho ddiogel, yn lle eu cael trwy’r post. Ar ôl i chi gofrestru i gael y gwasanaeth newydd, byddwch yn gallu gweld eich anfonebau a chyfriflenni hanesyddol ar lein. I fanteisio ar y gwasanaeth hwn, ac i gofrestru i’w ddefnyddio, ewch i’r Dudalen Cofrestru am E-filio (Saesneg)

Mae’r cyfrifon sy’n gymwys i gael y gwasanaeth hwn yn cynnwys Companies House Direct, Online Filing ac XML Gateway.

I gwblhau’r broses cofrestru, bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth o’ch cyfriflen ddiweddaraf oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau i mewn; bydd y system yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddilysu’ch cais. Mae’n bwysig nodi y dylech gofrestru ar lein AR ÔL cael eich cyfriflen bapur ddiweddaraf a CHYN diwrnod gwaith olaf y mis, er mwyn osgoi anawsterau wrth gofrestru. Os ydych chi’n gwsmer newydd rhaid i chi aros hyd nes i chi gael eich cyfriflen gyntaf cyn cofrestru i gael y gwasanaeth hwn.

Dim ond unwaith mae’n rhaid i chi gofrestru i gael y gwasanaeth hwn. Yna'r cwbl y bydd yn rhaid i chi ei wneud yw rhoi i mewn eich Rhif Cyfrif a’ch Cyfrinair i weld eich cyfriflenni, anfonebau a nodiadau credyd. Bydd y dogfennau hyn ar gael i’w gweld ar fformat PDF a hefyd byddwch yn cael y dewis o lawrlwytho’ch trafodion diweddaraf ar fformat CSV. Bob mis byddwch yn cael hysbysiad e-bost ac ynddo ddolen i’r adran lawrlwytho ddiogel, lle gallwch weld eich cyfriflen ac anfoneb diweddaraf.

Ar ôl i chi gofrestru, ac i’ch manylion gael eu cadarnhau, byddwch yn cael neges e-bost o gadarnhad oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau. Mae’n bwysig nodi na fyddwch yn cael cyfriflenni papur mwyach oddi wrth Dy’r Cwmnïau ar ôl i chi gofrestru i gael y gwasanaeth hwn. Y gwasanaeth electronig newydd hefyd fydd dull diofyn cyflwyno dogfennau i bob deiliad cyfrif newydd.

Cofrestru ar Gyfer Deiliaid Cyfrifon Presennol
Cofrestru ar Gyfer Deiliaid Cyfrifon Newydd
Mewngofnodi ar Gyfer Cwsmeriaid e-Filio Presennol

Brig
Ein polisi ar gwcis