Newidiadau i Ffioedd y Cofrestrydd Hydref 2012Yn dilyn adolygiad o’n prosesau a’n gwasanaethau mae Tŷ’r Cwmnïau’n lleihau rhai o’i ffioedd o 1 Hydref 2012 ymlaen. Gwneir hyn i sicrhau bod ein ffioedd yn adlewyrchu ein costau’n gywir. Mae Tŷ’r Cwmnïau’n Gronfa Fasnachu a rhaid iddo weithredu ar sail adennill costau. Mae cyfraith Ewrop a chanllawiau Trysorlys Ei Mawrhydi hefyd yn mynnu bod ffioedd yn gysylltiedig â’r rhagolygon costau am ddarparu pob gwasanaeth a’r ffordd y gall cwsmeriaid fanteisio arnynt. O ganlyniad i arbedion effeithlonrwydd a wnaethpwyd gan Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â’r nifer fawr o gwsmeriaid sy’n defnyddio gwasanaethau electronig, mae arbedion cost yn cael eu trosglwyddo i’r cwsmeriaid ar ffurf ffioedd llai. Cafodd newidiadau i’r ffioedd eu gosod gerbron y Senedd ar 23 Gorfennaf 2012 Bydd y newidiadau i ffioedd yn effeithio ar Gwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC), Cwmnïau Tramor, Grwpiadau Buddiannau Economaidd Ewropeaidd (EEIG) a Chwmnïau Atebolrwydd Cyfyngedig Cyhoeddus Ewropeaidd (SE). Bydd y newidiadau hefyd yn effeithio ar y sawl sy’n chwilio’r gofrestr gyhoeddus. Ac eithrio ffurflenni 466 ac LLP466, o 1 Hydref 2012 bydd Tŷ’r Cwmnïau’n rhoi’r gorau i godi tâl am ffurflenni a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a Gorchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 ac unrhyw un o’r darpariaethau a oedd yn berthnasol i PAC ac EEIG. |
||