Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

WebCHeck

Mae gwasanaeth WebCHeck yn cynnig mynegai o Enwau a Chyfeiriadau Cwmnïau y gellir ei chwilio yn rhad ac am ddim, gan eich galluogi i geisio gwybodaeth am dros 3 miliwn o gwmnïau. Gellir chwilio cwmni unigol naill ai drwy ddefnyddio'i enw neu ei rif cofrestru unigryw. Yn ychwanegol at y manylion cwmni rhad ac am ddim, gallwch hefyd ddefnyddio WebCHeck i brynu gwybodaeth hanes cwmnïau, gan gynnwys cyfrifon a ffurflenni blynyddol a detholiad o adroddiadau cwmni, i gyd ar-lein. Mae Monitor hefyd ar gael drwy wasanaeth WebCHeck. Bydd Monitor yn caniatáu ichi 'fonitro' cyflwyniad gwybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau gan unrhyw gwmni ddewiswch chi. Gellir talu drwy gerdyn credyd/debyd neu PayPal a chaiff pob cynnyrch ei drosglwyddo'n electronig i barth lawrlwytho diogel unigryw.

Manteisio ar drefn WebCHeck
Dysgu mwy am wasanaeth WebCHeck

Sylwch: Dim ond yn Saesneg mae gwasanaeth WebCHeck ar gael

Companies House Direct

Companies House Direct yw ein prif offeryn chwilio i gyrchu a dadlwytho gwybodaeth am gwmnïau yn uniongyrchol o’ch PC eich hun. Mae dros 240 miliwn o ddelweddau o ddogfennau cwmni ar gael, gan gynnwys cyfrifon cwmni, yn ogystal ag amrywiaeth helaeth o wybodaeth cronfa ddata. Gwasanaeth tanysgrifio yw Companies House Direct, ac mae nawr ar gael yn rhad ac am ddim, ac wedi hynny fe gostyngir y ffi danysgrifio fisol o £4.00 fel rhan o’ch anfoneb fisol, a fyddai hefyd yn cynnwys unrhyw ddogfennau neu gynhyrchion y gallwch fod wedi eu prynu.

Dysgu mwy am wasanaeth Companies House Direct
Sylwch: Dim ond yn Saesneg mae gwasanaeth Companies House Direct ar gael

Monitor

Gallwch gadw llygad ar unrhyw gwmni ar y gofrestr gyhoeddus, gan gynnwys eich cwmni eich hun, a 'monitro' pob rhyw wybodaeth a gafodd ei hanfon i Dŷ'r Cwmnïau drwy ddefnyddio gwasanaeth Monitor o fewn WebCHeck a Companies House Direct. Does dim rhaid ond cofrestru'ch cyfeiriad e-bost a manylion y cwmnïau a'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi. Cyn gynted ag y caiff y manylion eu cofrestru a'u bod yn fyw ar y gofrestr gyhoeddus, bydd y system yn cydnabod eich diddordeb ac yn gyrru hysbysiad drwy e-bost. Gallwch wedyn benderfynu a hoffech chi archebu'r wybodaeth. Chi biau'r dewis.

I gyrchu Monitor heddiw, ymwelwch â'n 'gwasanaeth talu wrth ddefnyddio'
WebCHeck
neu'n
'gwasanaeth tanysgrifio' Companies House Direct.

Sylwch: Dim ond yn Saesneg mae gwasanaeth Monitor ar gael

Cyfarwyddiadur DVD-ROM

Mae'r Cyfarwyddiadur DVD ROM yn cynnwys manylion sylfaenol dros 3 miliwn o gwmnïau byw a gofrestrwyd yng Nghymru, Lloegr, YrAlban a Gogledd Iwerddon ynghyd â chwmnïau sydd wediu diddymu yn ystod y mis diwethaf. Fe allwch chi chwilio’r DVD hefyd, gan gyfuno hyd at 6 chwiliad. Y dewisiadau wrth chwilio yw enw’r cwmni, rhif y cwmni, llinellau cyfeiriad y swyddfa gofrestredig, côd post, dyddiad corffori neu amrediad o ddyddiadau, Codau SIC(03) neu ddisgrifiad, math o gwmni, statws y cwmni neu fath o gyfrifon.

Cynhyrchir cyfarwyddiadur bob mis a gallwch brynu un copi am £30 neu danysgrifiad blwyddyn am £300. Mae copïau ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau, neu gallwch brynu DVD ROM dros y ffôn oddi wrth Ganolfan Cysylltu Tŷ'r Cwmnïau ar (0)303 1234 500 a thalu gyda Cherdyn Credyd/Debyd neu drwy lythyr ynghyd â siec yn daladwy i ‘Tŷ'r Cwmnïau' a'i hanfon at Gofal am Gwsmeriaid, Tŷ'r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ.

Nid yw'r cynnyrch hwn yn gytûn â chyfrifiaduron AppleMac.

Rheolir y cyfeiriadur DVD Rom am chwe mis o'r dyddiad prynu, ni fydd y data ar gael i chi ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben.

Sylwch nad yw’r Cyfarwyddiadur DVD ROM yn dangos manylion trosiant blynyddol, rhifau ffôn na manylion y cyfarwyddwyr. Ni ellir allfudo’r wybodaeth a ddangosir, ond rydym yn darparu fersiwn unigol o’r cyfarwyddiadur gyda ffeiliau y gellir eu hallfudo am £1,000. Y nifer fwyaf o ganlyniadau y gellir eu hallfudo ar unrhyw adeg yw 30,000.

Am wybodaeth bellach neu ymholiadau ynghylch y cynhyrchion DVD ROM, ffoniwch (0)303 1234 500 neu e-bostiwch eich enw, enw’ch cwmni, eich cyfeiriad post llawn a’ch rhif ffôn, gan nodi pa gynnyrch mae gennych ddiddordeb ynddo, at products@companieshouse.gov.uk

Y Cyfeiriadur DVD Rom o'r Mynegai o Gwmnïau sydd wedi Newid eu Henw ac sydd wedi Ymddatod

Mae'r Mynegai o Gwmnïau sydd wedi Newid eu Henw ac sydd wedi Ymddatod ar DVD Rom yn cynnwys gwybodaeth am dros 3 miliwn o gwmnïau yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd wedi newid eu henwau neu wedi ymddatod yn ystod y 24 o flynyddoedd diwethaf. Ar y DVD Rom gallwch chwilio yn ôl rhif cwmni, enw cwmni, math o gwmni, statws cwmni, newid enw, dyddiad ymddatod/cau a llinellau cyfeiriad gan gynnwys; Llinellau cyfeiriad trwy law (C/O), rhifau Swyddfa Bost (P/O) a Chodau Post.

Mae'r wybodaeth yn cael ei diweddaru bob blwyddyn a gellir prynu DVD Rom am £30. Gellir cyrchu'r wybodaeth am gyfnod penagored. Mae'n addas ar gyfer cyfrifiaduron sy'n defnyddio Windows a rhaid gosod Internet Explorer fel prif borwr rhagosodedig y cyfrifiadur.

I osod eich archeb gan ddefnyddio cerdyn credyd/debyd, ffoniwch Ganolfan Gyswllt Tŷ'r Cwmnïau ar 0303 1234 500, neu anfonwch eich cais ysgrifenedig i - Gofal i Gwsmeriaid, Tŷ'r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ. Cofiwch gynnwys siec am £30 yn daladwy i ‘Tŷ'r Cwmnïau'. 

Nid yw'r cynnyrch hwn yn addas i'w ddefnyddio ar gyfrifiaduron Apple Mac.

Dylid nodi nad yw'r Cyfeiriadur ar DVD Rom yn dangos manylion trosiant blynyddol, rhifau ffôn na manylion y cyfarwyddwyr. Ni ellir trosglwyddo'r wybodaeth o'r cyfeiriadur.

Am wybodaeth bellach neu ymholiadau ynghylch y cynhyrchion DVD ROM, ffoniwch (0)303 1234 500 neu e-bostiwch eich enw, enw’ch cwmni, eich cyfeiriad post llawn a’ch rhif ffôn, gan nodi pa gynnyrch mae gennych ddiddordeb ynddo, at enquiries@companieshouse.gov.uk

Canolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau

Cynhaliwn Ganolfannau Gwybodaeth yng Nghaerdydd, Llundain, Chaeredin, a Belfast. Mae’r Canolfannau Gwybodaeth yn darparu cysylltiad â’n cynhyrchion a’n gwasanaethau ar-lein, yn ogystal â gadael ichi sicrhau ffurflenni, ffeilio’ch dogfennau, corffori cwmnïau newydd (yr un diwrnod os bydd angen!) a chael gwybodaeth a chanllawiau cyffredinol ynghylch ein gwasanaethau.

Manylion sut i gyrraedd ein Canolfannau Gwybodaeth
Rhestr Llawn Prisiau Cynhyrchion a Gwasanaethau

Canolfan Cysylltu Tŷ'r Cwmnïau

Gall staff ein Canolfan Cysylltu ddelio â’r mwyafrif o ymholiadau cyffredinol ynghylch materion yn ymwneud â Thy’r Cwmnïau a’r gwasanaethau a roddwn. Fel arfer, byddant yn rhoi ichi ateb i’ch ymholiad yn syth, ond os na allant byddant yn eich trosglwyddo i rywun a all wneud.

Gall ein Canolfan Cysylltu hefyd gymryd archebion ar gyfer dogfennau cwmni, a anfonir wedyn drwy’r post, dros beiriant ffacs neu fel e-bost. Gellir talu â siec os archebwch drwy’r post; neu cewch archebu dros y ffôn os ydych yn talu drwy gerdyn credyd neu fod gennych chi gyfrif. Gellir cyflenwi copïau o ddogfennau unigol dros y ffacs neu fel e-bost ar gyfer pobl sy’n talu drwy gerdyn credyd neu sydd â chyfrif.

Cyrchu rhestr brisiau'n Canolfan Cysyllt

Gallwch ffonio'n Canolfan Cysylltu ar 0303 1234 500 neu anfon neges e-bost at enquiries@companies-house.gov.uk

Brig
Ein polisi ar gwcis