Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cynnyrch Data Cyhoeddus am Ddim

Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai Tŷ’r Cwmnïau yn rhan o Grŵp Data Cyhoeddus o gronfeydd masnachu. Nod y grŵp fydd manteisio i’r eithaf ar y data gwerthfawr sydd ganddynt er mwyn sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol yn y tymor hir, ac mae hynny’n cynnwys rhyddhau data yn rhad ac am ddim. Mae’r nodau hyn yn cyd-fynd yn braf â strategaeth gyfredol Tŷ’r Cwmnïau i ryddhau rhagor o wybodaeth yn rhad ac am ddim lle bo modd. Am hynny  mae  Cynnyrch Data Cyhoeddus newydd ‘nawr ar gael i ddarparu gwybodaeth sylfaenol am gwmnïau yn rhad ac am ddim.

Beth yw e?

Mae’r cynnyrch yn cynnig ciplun o ddata ar ffurf y gellir ei ddadlwytho. Mae’n cael ei ddiweddaru’n fisol ac yn cynnwys data sylfaenol am gwmnïau byw sydd ar y Gofrestr. Mae’r data mewn fformat CSV mewn ffeiliau ZIP. Mae’r data ei rannu yn nifer o ffeiliau gwahanol er mwyn ei gwneud yn haws i’w ddadlwytho.

Pa wybodaeth sydd ar gael?

Bydd y wybodaeth a gaiff ei rhyddhau yn cynnwys; rhif y cwmni, ei gyfeiriad, ei statws, ei ddyddiad corffori, dyddiadau ffeilio’i gyfrifon a’i ffurflenni blynyddol, cod SIC, URI a gwybodaeth sylfaenol am arwystlon morgeisi mewn perthynas â’r cwmni.

A fydd cymorth ar gael?

Ni fydd unrhyw gymorth parhaus ai gyd-fynd â’r cynnyrch hwn. Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cyngor na chymorth ar y data na’i driniaeth. Mae’r cynnyrch ar gael yn rhad ac am ddim. Gwybodaeth sydd eisoes ar gael yn rhad ac am ddim i gwmnïau unigol ar ein gwasanaethau gwe yw’r wybodaeth o dan sylw. Nid yw’r wybodaeth yn hollol gyfoes, ond mae’n darparu ciplun o wybodaeth o’r gronfa ddata, sy’n cael ei diweddaru bob mis.

Cynnyrch Data Cyhoeddus am Ddim

Dynodydd Adnodd Unffurf (URI) Cwmnïau

Brig
Ein polisi ar gwcis