Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Ffeilio cyfrifon iXBRL yn Nhŷ’r Cwmnïau

Gall Tŷ’r Cwmnïau dderbyn a phrosesu cyfrifon cwmni a gynhyrchir yn fformat iXBRL, ac mae mwy o ddarparwyr pecynnau meddalwedd yn sicrhau bod hyn ar gael.

Os yw’ch pecyn meddalwedd cyfrifyddu’n cynhyrchu cyfrifon Egwyddorion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol (GAAP) y Deyrnas Unedig yn fformat iXBRL, mae yna ffyrdd syml o’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Gallwch wneud hyn ar gyfer cyfrifon llawn wedi’u harchwilio neu heb eu harchwilio neu gyfrifon cryno mewn dwy ffordd:

  1. yn uniongyrchol, o feddalwedd cynhyrchu cyfrifon wedi’i alluogi, neu
  2. drwy eu lanlwytho i Dŷ’r Cwmnïau trwy wasanaeth ar y we gan drydedd parti neu becyn meddalwedd wedi’i osod yn lleol.

Mwy o fanylion am becynnau meddalwedd cyfrifyddu wedi’u galluogi (yn Saesneg)

Meddyliwch am fanteision ffeilio’ch cyfrifon yn electronig:

  • Dim rhagor o lythyrau esboniadol
  • Dim costau postio
  • Eu danfon yn gynt ac yn fwy diogel a chael cydnabyddiaeth ar unwaith eu bod wedi dod i law 
  • Cadarnhad awtomatig o’u derbyn neu eu gwrthod
  • Llai o berygl cosbau ffeilio hwyr.

Cwestiynau cyffredin am ffeilio cyfrifon iXBRL

Neu, gallwch ffeilio cyfrifon ar gyfer cwmnïau segur nad ydynt erioed wedi masnachu trwy ffurflen we syml, neu ffeilio’ch cyfrifon llawn neu gryno heb eu harchwilio gan ddefnyddio cyd-dempled Tŷ’r Cwmnïau/Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi; mae’r ddau ar gael o’n gwasanaeth WebFiling.

"Cyfrifon e-ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau yn cymryd i ffwrdd"
Erthygl gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartedig Cymru a Lloegr (ICAEW) (Saesneg yn unig)

Brig
Ein polisi ar gwcis