Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cydgofrestru ar gyfer Dechrau Cwmni a Threth

Mae opsiwn i gwsmeriaid gorffori cwmni a chofrestru ar gyfer Treth Gorfforaethol mewn un broses nawr wedi cael ei gyflwyno. Ar hyn o bryd, dim ond yn Saesneg fydd yr opsiwn hwn ar gael.

Mae'r opsiwn hwn ar gael ar ddiwedd proses Corffori ar y We Tŷ'r Cwmnïau neu drwy feddalwedd corffori trydydd parti. Mae'r opsiwn newydd hwn wedi cael ei gyd-ddatblygu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a Thŷ'r Cwmnïau fel rhan o nod y llywodraeth i wneud y Deyrnas Unedig yn un o'r lleoedd hawsaf i ddechrau cwmni.

Ar yr amod nad yw'ch cwmni'n elusen neu'n aelod o grŵp a'ch bod eisoes yn gwybod y dyddiad y bydd y cwmni'n dechrau ei weithgareddau busnes, gellir llenwi'r wybodaeth ar gyfer Treth Gorfforaethol sy'n ofynnol gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar ddiwedd y broses Corffori ar y We, trwy ateb 6 chwestiwn syml ar un sgrin.  

Ar ôl i Dŷ'r Cwmnïau dderbyn eich corfforiad, caiff y wybodaeth a ddarparwyd ar gyfer Treth Gorfforaethol ei hanfon i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a fydd yn cysylltu â chi i gadarnhau'ch cyfeirnod trethdalwr ac unrhyw wybodaeth arall os oes angen.

sgrin cydgofrestru ar gyfer dechrau cwmni a threth newydd
Brig
Ein polisi ar gwcis