Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Symud Canolfan Wybodaeth Tŷ’r Cwmnïau yn Llundain – Mai 2012

Y Trefniadau Trosiannol

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn Llundain yn agor am fusnes yn ei gartref newydd am 9.00am fore Llun, 21 Mai 2012:

Tŷ’r Cwmnïau
4 Abbey Orchard Street
Westminster
Llundain
SW1P 2HT


Gweld Map Canolfan Gwybodaeth Llundain Mwy

Er mwyn lleihau’r effaith ar ein cwsmeriaid, byddwn yn symud dros benwythnos 19 ac 20 Mai 2012.

Er mwyn hwyluso’r broses o symud, bydd swyddfa Llundain yn cau drysau ei swyddfeydd yn 21 Bloomsbury Street i’r cyhoedd am 17.00 o’r gloch brynhawn Gwener, 18 Mai 2012.


Dyma’r Trefniadau Trosiannol:

Y Gwasanaethau Prosesu yr Un Diwrnod:
Yr amser cau ar gyfer pob cais am wasanaethau yr un diwrnod fydd 11.00am.

  • Corffori Cwmni/PAC
  • Newid Enw Cwmni/PAC
  • Lleihau Cyfalaf trwy Ddatganiad Hydaledd/Gorchymyn Llys
  • Ailgofrestriadau
  • SH50

Y Gwasanaeth Copïau Ardystiedig
Ni fydd y broses o symud swyddfeydd yn effeithio dim ar y gwasanaeth copïau ardystiedig.

Cyfleuster Chwiliadau Cwmni
Ni fydd y broses o symud yn effeithio ar Systemau Chwilio’r Ganolfan Wybodaeth, ond mae’n bosibl na fydd modd i gwsmeriaid argraffu canlyniadau chwiliadau ar ôl 3pm.

Cyflwyno Dogfennau
Bydd y blwch postio yn 21 Bloomsbury Street yn weithredol tan 23.59 nos Sul, 20 Mai 2012.  Caiff y blwch ei gau ar ôl casglu’r post. Dylid cyflwyno unrhyw ddogfennau i’r cyfeiriad newydd o hynny ymlaen.

Rydym wedi trefnu gwasanaeth atgyfeirio ar gyfer unrhyw ddogfennau sydd eisoes yn y system bost adeg y symud.

Fodd bynnag, dylai cwsmeriaid nodi y dylid cyfeirio dogfennau i’r cyfeiriad newydd o ddydd Gwener, 18 Mai 2012 ymlaen am ei bod hi’n bosibl na fydd dogfennau a anfonir i’r hen gyfeiriad ar ôl dyddiad cau’r swyddfa yn ein cyrraedd ni.

Gallwn sicrhau cwsmeriaid bod trefniadau cadarn yn bodoli i warantu bod yr holl ddogfennau a gwaith papur sy’n dod i law cyn i ni symud, yn cael eu cludo i’n swyddfeydd newydd mewn ffordd ddiogel a sicr.


Rhaid cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau ar y dyddiad dyledus neu cyn hynny. Ni allwn dderbyn oedi wrth gludo dogfennau fel esgus dros eu cyflwyno’n hwyr. Rhaid codi cosb hyd yn oed os yw’r cyfrifon gwta ddiwrnod yn hwyr, ac ni fydd modd ildio cosbau o’r fath. 

Bydd ‘Busnes yn ôl yr Arfer’ pan fyddwn ni’n ailagor yn y cyfeiriad newydd ddydd Llun, 21 Mai 2012 am 9.00am.

Bydd holl wasanaethau eraill Tŷ’r Cwmnïau ar gael yn ôl yr arfer yn ystod cyfnod y symud.

Gallwn gadarnhau na fydd ein rhifau ffôn yn newid.    

Os oes unrhyw sylwadau neu ymholiadau gennych, rhowch alwad i ni ar 0303 1234 500

Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra sy’n codi yn sgil y symud.

Brig
Ein polisi ar gwcis