Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Ffurflenni Cais Cyflwynydd Ffeilio Ar-lein (ar gael yn Saesneg yn unig)

Os ydych chi'n bwriadu ffeilio dogfennau'n electronig gyda Thŷ'r Cwmnïau, efallai y byddwch angen neu'n cael budd o fod â Chyfrif Cyflwynydd Ffeilio Ar-lein.

Mae tri gwahanol fath o gyfrif cyflwynydd ar gael. Mae pob un yn wahanol er mwyn diwallu'r anghenion sy'n gysylltiedig â dilysu a thalu ffioedd am y gwahanol drafodion ar-lein a gynigiwn.

Bydd angen i chi lenwi un o'r ffurflenni cais isod os ydych:

  • yn bwriadu ffeilio gan ddefnyddio meddalwedd trydydd parti
  • yn ddarparwr benthyciad sydd eisiau ffeilio arwystlon yn electronig (ffeilio trwy feddalwedd neu drwy WebFiling)
  • eisiau ffeilio trwy WebFiling a thalu ffioedd ffeilio trwy gyfrif credyd yn hytrach na gyda cherdyn credyd/debyd

Nodyn pwysig: Rhaid postio pob cais i Dŷ'r Cwmnïau a gall gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith i'w brosesu. Mae'r Nodwedd Adnabod Cyflwynydd a chodau dilysu cysylltiedig yn cael eu postio i'r cyfeiriad cyswllt.

Cyfrif Credyd ar gyfer Ffeilio Ar Lein -
Dogfennau mae Ffioedd yn Daladwy amdanynt (PDF 888KB)
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am gyfrif credyd i dalu am ffeilio dogfennau mae ffioedd yn daladwy amdanynt, a chael y Nodwedd Adnabod Cyflwynydd a'r Cod Dilysu Cyflwynydd y mae eu hangen i ffeilio gan ddefnyddio meddalwedd trydydd parti. Gall defnyddwyr y gwasanaeth WebFiling wneud cais am y cyfrif credyd hwn i dalu ffioedd ffeilio (mae defnydd lleiaf yn berthnasol ar gyfer WebFiling).
Cyfrif Cyflwynydd ar gyfer Ffeilio Ar Lein -
Dogfennau nad yw Ffioedd yn Daladwy amdanynt (PDF 214KB)
Defnyddiwch y ffurflen hon os oes angen i chi gael Nodwedd Adnabod Cyflwynydd a Chod Dilysu Cyflwynydd i ffeilio, trwy feddalwedd trydydd parti, ddogfennau NAD OES ffi amdanynt (e.e. cyfrifon).
Cofrestru fel Darparwr Benthyciad i Ffeilio Dogfennau Arwystlon Electronig (PDF 974KB) Defnyddiwch y ffurflen hon i gael y Cod Dilysu Darparwr Benthyciad mae ei angen i ffeilio dogfennau arwystlon yn electronig ar gyfer cwmnïau ac eithrio'ch cwmni'ch hun. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am gyfrif credyd i dalu am ffeilio dogfennau mae ffioedd yn daladwy amdanynt, ac i gael Nodwedd Adnabod Cyflwynydd a Chod Dilysu Cyflwynydd i ffeilio dogfennau'n electronig.

Oes angen i mi gael cyfrif cyflwynydd Tŷ'r Cwmnïau i ffeilio cyfrifon trwy feddalwedd?

Oes. Os oes gennych eisoes gyfrif credyd ffeilio ar-lein rydych yn ei ddefnyddio i ffeilio Ffurflenni Blynyddol, gallwch ddefnyddio'r cyfrif hwn (a'r Nodwedd Adnabod Cyflwynydd / Cod Dilysu Cyflwynydd cysylltiedig) i ffeilio cyfrifon yn electronig trwy feddalwedd.

Os nad oes gennych gyfrif cyflwynydd ac os ydych chi'n bwriadu ffeilio cyfrifon yn unig, llenwch y ffurflen Cais am Gyfrif Cyflwynydd (Dogfennau nad oes Ffioedd yn Daladwy amdanynt) (PDF 214KB)

Os nad oes gennych gyfrif cyflwynydd ac os ydych eisiau ffeilio dogfennau mae ffioedd yn daladwy amdanynt yn ogystal â Chyfrifon, llenwch y ffurflen Cais am Gyfrif Credyd ar gyfer Ffeilio Ar Lein (PDF 888KB)

Rwyf eisiau ffeilio dogfennau morgais yn electronig. Pa ffurflen gais ddylwn i ei defnyddio?

Os ydych chi'n ddarparwr benthyciad ac eisiau ffeilio arwystlon yn erbyn cwmnïau ac eithrio'ch cwmni'ch hun, dylech lenwi'r ffurflen Cais i Gofrestru fel Darparwr Benthyciad i Ffeilio Dogfennau Arwystlon Electronig (PDF 974KB) Bydd angen i chi gael Cod Dilysu Darparwr Benthyciad i ffeilio arwystlon yn electronig.

Gellir defnyddio'r un ffurflen i wneud cais am Nodwedd Adnabod Cyflwynydd a Chod Dilysu Cyflwynydd os nad yw'r manylion hyn gennych eisoes. Mae angen y codau hyn i ffeilio arwystlon yn electronig.

Hefyd, os ydych eisiau talu'ch ffioedd ffeilio trwy gyfrif, gallwch wneud cais am gyfrif credyd ar yr un ffurflen gais. Gall cwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth WebFiling dalu gyda cherdyn credyd neu drwy PayPal yn lle hynny os ydynt eisiau.

Os ydych chi'n ffeilio ar lein eisoes ac eisiau ffeilio dogfennau morgais ar gyfer eich cwmni'ch hun, neu gwmnïau rydych yn gwybod y cod dilysu cwmni ar eu cyfer, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio'r codau sydd gennych eisoes.

Brig
Ein polisi ar gwcis