|
|
Ffioedd Ty'r Cwmnau - Cwestiynau Mynych
Pam y cododd rhai ffioedd yn 2005? Y rheswm am hyn oedd bod rhaid i Dŷ’r Cwmnïau adennill ei gostau rhedeg drwy ei ffioedd. Ers diwedd 2001/02 mae nifer y cwmnïau gweithredol ar y gofrestr wedi cynyddu o lai nag 1.5 miliwn i ychydig dros 2.5 miliwn, gyda chynnydd o bron 400,000 dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Golygai cost cynnal cofrestr gwmnïau ymledol fod angen mwy o fuddsoddiad yn y seilwaith i gwrdd â her ein baich gwaith cynyddol. Arhosodd y ffi flynyddol am brosesu dogfen bapur yn ddigyfnewid o 1996 hyd 1 Chwefror 2005, pan gafodd ei chodi o £15 i £30. Roedd hyn yn angenrheidiol i adennill y gost a ragwelid ar gyfer prosesu dogfennau papur, sy’n drefn fwy llafurddwys a chostus na’r dull electronig cyfatebol. Pa ffioedd cofrestru a gododd yn 2005?
A ostyngwyd unrhyw ffioedd yn 2005?
Beth yw’r ffi sy’n daladwy gyda ffurflen flynyddol?
Na fydd. Y rheswm am hyn yw bod y ffi o £30 am ffeilio ffurflen flynyddol ar bapur wedi’i phennu drwy offeryn statudol a’i chymeradwyo gan y Senedd; nid oes gan Dŷ’r Cwmnïau ddisgresiwn i ostwng y ffi am ffeilio ar bapur i unrhyw gwmni na grŵp o gwmnïau. Pam nad oes modd ffeilio pob ffurflen yn electronig ac felly gostwng y ffi ffeilio? Gan fod rhaid i Dŷ’r Cwmnïau adennill ei gostau drwy ffioedd bob amser, ni fu’n bosibl inni aros nes e-alluogi pob ffurflen ar gyfer pob math o gwmni a grŵp cwsmeriaid cyn diwygio’n ffioedd. Gwaetha’r modd, mae hyn yn golygu y bydd rhai grwpiau cwsmeriaid yn dioddef anfantais yn y tymor byr. (Er enghraifft, y ffi ar gyfer ffurflen flynyddol Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig yw £30 am na threfnwyd i e-alluogi honno, er bod y ffi wedi’i gostwng o £35). At ei gilydd, amcangyfrifwn fod rhyw 5% o’r gofrestr heb allu ffeilio ar-lein ond rydym yn gweithio ar ffyrdd i alluogi’r cwmnïau hyn i ffeilio’u ffurflen flynyddol yn electronig. Mae’r ffi’n seiliedig ar adennill cost prosesu pob dogfen a gaiff ei derbyn a’i rhoi ar y gofrestr gwmnïau yn ystod y flwyddyn (yn fwyaf nodedig, y cyfrifon blynyddol), heblaw am y rhai sy’n denu ffi ar wahân. Mae hefyd yn cwmpasu cost cynnal cofnod y cwmni ar y gofrestr. Nid yn unig y gwaith sydd eisiau i brosesu’r ffurflen flynyddol y mae’r ffi yn ei fodloni. I eglurhau hyn, disgrifir y ffi bellach fel ffi am ffeilio “dogfennau perthnasol”. I leihau costau i gwmnïau, ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn codi tâl ar wahân am bob dogfen sy’n dod i law. Mae llawer o’r dogfennau hyn yn ymwneud â diwygio’r manylion sydd ar glawr a chadw, megis newid cyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu ryw newid o ran cyfarwyddwyr. Nid oes ychwaith ffi ar wahân am ffeilio cyfrifon blynyddol. Byddai tâl am bob dogfen unigol yn arwain at gynnydd sylweddol ym maich gweinyddol Tŷ’r Cwmnïau, a fyddai yn ei dro yn golygu bod costau ychwanegol yn cael eu tynnu. Byddai’n rhaid trosglwyddo’r costau ychwanegol hyn i gwmnïau ar ffurf ffioedd uwch, gan arwain at faich sylweddol ar ysgwyddau busnesau hwythau. Mae adennill cost cofrestru’n flynyddol drwy ffeilio’r ffurflen flynyddol yn fwy effeithiol ac yn llai costus i gwmnïau. Gwelwyd rhai ychwanegiadau at y rhestr prisiau ers 6 Ebrill 2007. Ydy hyn yn golygu bod eich prisiau wedi newid? Daethpwyd i rym â rhai rhannau o Ddeddf Cwmnïau 2006 ar 6 Ebrill 2007, gan gynnwys yr adrannau hynny sy’n ymwneud â ffioedd. Bu inni achub y cyfle i gyhoeddi’n holl gynhyrchion a gwasanaethau, a gallwn gadarnhau nad yw’r un o’n ffioedd a’n taliadau wedi newid o ganlyniad. Ble galla i gael gwybodaeth bellach am eich prisiau?Cliciwch yma am fanylion llawn y ffioedd newydd. Sut galla i ffeilio dogfennau’n electronig? Cliciwch yma am wybodaeth ynghylch ein Gwasanaethau Electronig |
||