Fee Newidiadau i’r Ffioedd 1 Hydref 2012Cafodd newidiadau i’r ffioedd eu gosod gerbron y Senedd ar 23 Gorfennaf 2012 Corffori Corffori trwy feddalwedd - (Ffi lai) Mae'r ffi am gorffori sy'n cael ei ffeilio trwy feddalwedd yn cael ei lleihau o £14 i £13 i bob cwmni a PAC. Corffori ar y we - (Ffi lai) Mae'r ffi am gorffori sy'n cael ei ffeilio ar y we'n cael ei lleihau o £18 i £15 i bob cwmni ac eithrio PAC. Crynodeb Nodir y newidiadau i'r ffioedd am gorffori isod:
Cyfnod newid corffori Bydd y ffi newydd yn dechrau ar 1af Hydref 2012 ar gyfer pob corfforiad sy'n cyrraedd Tŷ'r Cwmnïau ar neu ar ôl 1af Hydref 2012.
Ffi flynyddol Ffurflen flynyddol electronig (Ffi lai ) Mae'r ffi flynyddol sy'n gysylltiedig â'r ffurflen flynyddol electronig (fersiynau'r we a meddalwedd) i bob cwmni a PAC yn cael ei leihau o £14 i £13 Crynodeb Nodir y newidiadau i'r ffioedd ar gyfer pob ffi flynyddol isod:
Cyfnod newid ffurflen flynyddol Bydd y ffi newydd yn dechrau ar 1af Hydref 2012 ar gyfer pob ffurflen flynyddol a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 sy'n cyrraedd Tŷ'r Cwmnïau ar neu ar ôl 1af Hydref 2012.
Cynhyrchion chwilio Gweld Dogfennau - Companies House Direct (CHD), Extranet a Chanolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau (CHIC) (Ffi lai) Mae'r ffi am lawrlwytho llun ar unwaith trwy ‘Gweld Dogfennau' yn CHD ac Extranet yn cael ei lleihau o £4 i £1, i'w gwneud yn gyson â'r ffi lawrlwytho lluniau safonol. Bydd y ffi am y gwasanaeth ‘Gweld Dogfennau' yng Nghanolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau (CHIC) yn cael ei lleihau hefyd, o £2 i £1. Data penodiadau fesul cwmni (Di-dâl) Bydd y sgriniau penodiadau cyfarwyddwyr fesul cwmni trwy Companies House Direct (CHD), Canolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau (CHIC), Extranet a galwad Penodiadau Cwmni XML Gateway ar gael yn ddi-dâl am y tro cyntaf o 1af Hydref 2012. Fodd bynnag, codir ffi o £1 o hyd am chwilio am benodiadau cyfarwyddwyr unigol.
Adroddiadau Penodiadau Cwmni (Di-dâl) Caiff adroddiadau penodiadau cwmni ar gyfer Companies House Direct (CHD), WebCHeck, Canolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau (CHIC) ac Extranet eu darparu'n ddi-dâl o 1af Hydref 2012.
Swmp-gynhyrchion Cyfeiriad Preswyl Arferol (URA) Mae'r ffioedd am Giplun CPA a Swmp-gynnyrch Diweddariadau Dyddiol yn cael eu lleihau fel a ganlyn:
Ffurflenni a ddarperir o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 neu Gorchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 Ac eithrio ffurflenni 466 ac LLP466, o 1 Hydref 2012 bydd Tŷ’r Cwmnïau’n rhoi’r gorau i godi tâl am ffurflenni a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 a Gorchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 ac unrhyw un o’r darpariaethau a oedd yn berthnasol i PAC ac EEIG.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||