Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Rhybudd pwysig i gwsmeriaid:
Dogfennau Deddf Cwmnïau 1985: Dileu opsiwn Ffeilio Meddalwedd

Dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol bod Tŷ’r Cwmnïau, o 1 Hydref 2012 ymlaen, yn diddymu’r opsiwn Ffeilio Meddalwedd ar gyfer unrhyw ddogfennau a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 1985.

Diddymodd Tŷ’r Cwmnïau y gwasanaeth WebFiling cyfatebol ar 22 Ebrill 2012 ac oherwydd mai nifer fach iawn o’r ffurflenni hyn sy’n cael eu ffeilio trwy Ffeilio Meddalwedd, penderfynwyd diddymu’r gwasanaeth hwn.

Bydd cwsmeriaid yn dal i allu cyflwyno’r wybodaeth hon ar bapur.

Yn unol â diddymu’r gwasanaeth electronig, mae Tŷ’r Cwmnïau hefyd wedi penderfynu dileu unrhyw ffioedd sy’n gysylltiedig â dogfennau sy’n cael eu ffeilio o dan Ddeddf Cwmnïau 1985. Ar neu ar ôl 1 Hydref 2012, bydd cwsmeriaid yn gallu ffeilio, yn ddi-dâl, unrhyw ddogfen sy’n cael ei chyflwyno o dan Ddeddf Cwmnïau 1985, y mae ffi yn daladwy amdani ar hyn o bryd.

Brig
Ein polisi ar gwcis