|
|
Newid arfaethedig i’n Gwasanaeth Software Filing (Rhagfyr 2008) Beth a wnawn? Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, yr ydym ni yn Nhŷ’r Cwmnïau wedi lleisio’n bwriad i newid trefn dechnegol trosglwyddo data rhwng Cyflwynwyr a Thŷ’r Cwmnïau. Ym Mehefin 2008, bu inni gyflwyno llwybr newydd sy’n caniatáu anfon dogfennau drwy ryngwyneb gwasanaeth XML (WEB). Mae hyn yn caniatáu i becynnau meddalwedd drosglwyddo data’n uniongyrchol i Dŷ’r Cwmnïau drwy’r Porth XML ar ddiwyg wedi’i amgryptio Mae Tŷ’r Cwmnïau’n dal i weithredu’r drefn Software Filing ar sail tagiau i gwsmeriaid presennol. Fodd bynnag, rydym yn annog cwsmeriaid i drosi i’r gwasanaeth XML yn gynnar, gan y bydd ffwythianoldeb y gwasanaeth tagiau yn dod i ben ar 1 Hydref 2009. Mae’r Porth XML yn cynnig mynediad ar-lein dros y rhyngrwyd i gronfeydd data Tŷ’r Cwmnïau, i gwsmeriaid gyflwyno a hefyd gipio gwybodaeth gwmni drwy gyfrwng eu cymwysiadau neu eu tudalennau gwe eu hun. Pam y gwnawn hyn? Roedd Tŷ’r Cwmnïau am ddatblygu dull cyfathrebu mwy diogel a chynnig i ddefnyddwyr Software Filing wasanaethau gwe sydd, o ran dylunwaith, yn arfer XML fel diwyg data. Mae gwasanaeth Software Filing XML yn ffordd fwy effeithlon, ddiogelach a chyflymach o ffeilio manylion cwmni i’r cyflwynydd ac i Dŷ’r Cwmnïau fel ei gilydd, yn hytrach na’r prosesau papur neu e-bost presennol. Yn ogystal â chyflwyno data, gall cyflwynwyr hefyd gael copi o’r manylion a gedwir ar hyn o bryd gan Dŷ’r Cwmnïau. Bydd hyn yn cyfateb i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar y Ffurflen Flynyddol ac yn gadael i ddefnyddwyr wirio’r manylion o ran cywirdeb cyn eu hanfon. Pam nawr? Pan gyflwynir Deddf Cwmnïau 2006, bydd yn ofynnol trin cyfeiriadau preifat cyfarwyddwyr mewn ffordd ddiogel wedi’i hamgryptio o Hydref 2009 ymlaen. Bydd cyflwyniad system o’r enw Hypertext Transfer Protocol (secure) – HTTPS rhwng y cleient a gweinyddwyr gwe yn bodloni hyn. Bydd cyflwyno’r gwasanaeth XML y pryd hwn yn rhoi i ddefnyddwyr y drefn Software Filing ddigon o amser i ddatblygu’u systemau a’u pecynnau eu hun a threfnu iddynt fod ar gael i’w cleientiaid. Mae XML yn safon e-GIF (e-Government Interoperability Framework) yr argymhellir ei harfer yng nghyswllt pob rhyngwyneb llywodraeth dros y we. Mae e-GIF yn hybu mabwysiadu XML fel prif safon ar gyfer integreiddio a rheoli data o dan bob system sy’n briodol i’r sector cyhoeddus. |
||