Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 


Sefyllfa Ddiweddara’r Gwasanaeth Meddalwedd Ffeilio Electronig
Chwefror 2009

Newidiadau Meddalwedd

Mewn niferoedd cynyddol, mae’n cwsmeriaid yn dewis dilyn y llwybr newydd sy’n caniatáu cyflwyno dogfennau drwy ryngwyneb Gwasanaeth  XML (WEB).

Mae’r Porth XML yn cynnig mynediad ar-lein dros y rhyngrwyd i gronfeydd data Tŷ’r Cwmnïau, i gwsmeriaid gyflwyno a hefyd gipio gwybodaeth gwmni drwy gyfrwng eu cymwysiadau neu eu tudalennau gwe eu hun.

Mae’n bwysig i’n cwsmeriaid gadw mewn cof, er bod Tŷ’r Cwmnïau’n dal i weithredu’i drefn Software Filing ar sail “tagiau” i gwsmeriaid presennol, na fydd hyn yn parhau.

Bydd ffwythianoldeb y gwasanaeth “tagiau” yn dirwyn i ben ar 1 Hydref 2009 ac ni fydd ffeilio pellach yn bosib drwy’r dull hwn

Deddf Cwmnïau 2006 

Caiff Deddf Cwmnïau 2006 ei gweithredu’n derfynol ar 1 Hydref 2009. Y pryd hwn, fe gyflwynir amrediad newydd o fathau o ffurflenni ar gyfer digwyddiadau ar neu wedi’r dyddiad gweithredu.

I baratoi ar gyfer hyn, gallwn gyflenwi Drafft o Fanyleb Rhyngwyneb Technegol XML a Sgemâu Drafft 2006. Rhaid inni nodi yma mai er gwybodaeth yn unig y mae sgemâu Deddf  2006 ac y gallant newid cyn trefnu argaeledd y fersiynau terfynol yn Ebrill  2009.

Bwrw Ymlaen o Drefn XML

Fel yr eglurwyd yn barod, hoffem annog cwsmeriaid i fwrw ymlaen i’r drefn XML yn awr. Bydd hyn yn fuddiol hefyd oherwydd y bydd y sgemâu cyfredol (fersiynau Deddf 1985) yn dal yn berthnasol ar gyfer digwyddiadau cyn 1 Hydref 2009.  

Mynediad Di-dâl i Wybodaeth Gwmni

Drwy ddefnyddio XML ceir mantais ychwanegol “ffwythianoldeb darllen” yng nghyswllt data sydd wedi’u cadw yn Nhŷ’r Cwmnïau, a hwnnw ar gael drwy gyfrwng y Porth XML, yn rhad ac am ddim, i hyrwyddo ffeilio dilynol ar wybodaeth. 

Cyfrifon Prawf XML

Gellir sefydlu cyfrifon prawf ar gyfer cyflwyniadau’n seiliedig ar y sgemâu presennol neu yn barod ar gyfer profion y dyfodol ac mae cefnogaeth dechnegol arbenigol ar gael i gwsmeriaid sy’n trosglwyddo i’r drefn newydd. Hyd yn oed os yw cwsmeriaid yn aros am y profion sgema newydd (Deddf Cwmnïau 2006), ein cyngor fyddai sefydlu cyfrif prawf yn awr er mwyn osgoi unrhyw oedi.

Ysbeidiau Profi

I sicrhau bod y lefel uchaf o gefnogaeth sy’n bosib ar gael i gyflwynwyr, bwriadwn drefnu ysbeidiau profi penodol yn ystod y cyfnod yn union cyn y gweithredu ym mis Hydref.

Bydd y rhain yn para fis bob un yn ystod Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf neu Awst. Gwahoddwn gwsmeriaid, felly, i neilltuo’u hysbaid brofi eu hun ymlaen llaw er mwyn sicrhau y caiff eu hanghenion eu diwallu’n llawn  

Gwybodaeth, Dogfennaeth neu Brofi Pellach
Mae Sgemâu Drafft a Manyleb y Rhyngwyneb Technegol ar gael gan Marie Flowers, Rheolwraig Cysylltu â Chwsmeriaid - mflowers@companieshouse.gov.uk - a all hefyd drefnu cyfrif prawf neu neilltuo ysbaid brofi yng nghyswllt sgemâu newydd 2006.  

Brig
Ein polisi ar gwcis