|
|
Sefyllfa Ddiweddara’r Gwasanaeth Meddalwedd Ffeilio Electronig Ym Mehefin 2008, bu inni gyflwyno llwybr newydd sy’n caniatáu anfon dogfennau drwy ryngwyneb gwasanaeth XML (WEB). Mae hyn yn caniatáu i becynnau meddalwedd drosglwyddo data’n uniongyrchol i Dŷ’r Cwmnïau drwy’r Porth XML ar ddiwyg wedi’i amgryptio. Mae Tŷ’r Cwmnïau’n dal i weithredu’r drefn Software Filing ar sail tagiau i gwsmeriaid presennol. Fodd bynnag, rydym yn annog cwsmeriaid i drosi i’r gwasanaeth XML yn gynnar, gan y bydd ffwythianoldeb y gwasanaeth tagiau yn dod i ben ar 1 Hydref 2009. Mae’r Porth XML yn cynnig mynediad ar-lein dros y rhyngrwyd i gronfeydd data Tŷ’r Cwmnïau, i gwsmeriaid gyflwyno a hefyd gipio gwybodaeth gwmni drwy gyfrwng eu cymwysiadau neu eu tudalennau gwe eu hun. Deddf Cwmnïau 2006 Caiff Deddf Cwmnïau 2006 ei gweithredu’n derfynol ar 1 Hydref 2009. Y pryd hwn, fe gyflwynir amrediad newydd o fathau o ffurflenni ar gyfer digwyddiadau ar neu wedi’r dyddiad gweithredu. I baratoi ar gyfer hyn, gallwn gyflenwi Drafft 1af Manyleb Rhyngwyneb Technegol XML a Sgemâu Drafft 2006. Rhaid inni nodi yma mai er gwybodaeth yn unig y mae sgemâu Deddf 2006 ac y gallant newid cyn trefnu argaeledd y fersiynau terfynol yn Ebrill 2009. Bwrw Ymlaen o Drefn XML Fel yr eglurwyd yn barod, hoffem annog cwsmeriaid i fwrw ymlaen i’r drefn XML yn awr. Bydd hyn yn fuddiol hefyd oherwydd y bydd y sgemâu cyfredol (fersiynau Deddf 1985) yn dal yn berthnasol ar gyfer digwyddiadau cyn 1 Hydref 2009. Profi XML Gellir sefydlu cyfrifon prawf ar gyfer cyflwyniadau’n seiliedig ar y sgemâu presennol neu yn barod ar gyfer profion y dyfodol. Mae cefnogaeth dechnegol arbenigol ar gael i gwsmeriaid sy’n trosglwyddo i’r drefn newydd a chaiff hon ei chlustnodi yn ystod y cyfnodau profi a gafodd eu trefnu. Ysbeidiau Profi I sicrhau bod y lefel uchaf o gefnogaeth sy’n bosib ar gael i gyflwynwyr, bwriadwn drefnu ysbeidiau profi penodol yn ystod y cyfnod yn union cyn y gweithredu ym mis Hydref. Bydd y rhain yn para fis bob un yn ystod Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf neu Awst. Gwahoddwn gwsmeriaid, felly, i neilltuo’u hysbaid brofi eu hun ymlaen llaw er mwyn sicrhau y caiff eu hanghenion eu diwallu’n llawn Gwybodaeth, Dogfennaeth neu Brofi Pellach Mae Sgemâu Drafft a Manyleb y Rhyngwyneb Technegol ar gael gan Marie Flowers, Rheolwr Cysylltu â Chwsmeriaid - mflowers@companieshouse.gov.uk - a all hefyd drefnu cyfrif prawf neu neilltuo ysbaid brofi yng nghyswllt sgemâu newydd 2006. |
||