Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 


Newid arfaethedig i'n gwasanaeth Software Filing
Beth a wnawn? 

Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, rydyn ni yn Nhŷ’r Cwmnïau wedi rhoi llais i’n bwriad i newid ein darpariaeth dechnegol ar gyfer trosglwyddo data rhwng cyflwynwyr a Thŷ’r Cwmnïau.

O Fehefin 2008 ymlaen, byddwn yn trosi’n gwasanaeth Software Filing cyfredol sy’n seiliedig ar system “Tagiau” gan ganiatáu cyflwyno dogfennau drwy’r e-bost, i ryngwyneb Gwasanaeth XML (WEB) sy’n caniatáu i becynnau meddalwedd anfon data’n uniongyrchol i Dŷ’r Cwmnïau drwy’r Porth XML ar fformat wedi’i amgryptio.

Mae Porth XML yn hwyluso cyrchu cronfeydd data Tŷ’r Cwmnïau ar-lein dros y rhyngrwyd, fel y gall cwsmeriaid gyflwyno yn ogystal â chasglu gwybodaeth gwmni drwy eu cymwysiadau neu eu tudalennau gwe eu hunain.

Pam ein bod yn gwneud hyn? 

Mae Tŷ’r Cwmnïau am ddatblygu dull cyfathrebu mwy diogel a rhoi i’n ffeilwyr drwy feddalwedd Wasanaethau Gwe sydd, yn ôl eu dyluniad, yn defnyddio XML fel fformat data. Bydd Gwasanaeth Software Filing XML yn cynnig dull mwy effeithlon, diogel a chyflym o ffeilio manylion cwmni na’r prosesau presennol sy’n seiliedig ar bapur neu’r e-bost, a hynny i gyflwynwyr ac i Dŷ’r Cwmnïau fel ei gilydd.

Yn ogystal â chyflwyno manylion, gall cyflwynwyr hefyd gael copi o’r data a ddelir ar hyn o bryd gan Dŷ’r Cwmnïau.  Bydd hyn yn cyfateb i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar y Ffurflen Flynyddol a bydd yn caniatáu i ddefnyddwyr wirio cywirdeb y manylion cyn eu cyflwyno.

Pam nawr?

Gyda dyfodiad Deddf Cwmnïau 2006, bydd yn ofynnol cadw cyfeiriadau preifat cyfarwyddwyr mewn ffordd ddiogel wedi’i hamgryptio o fis Hydref 2009 ymlaen. Bydd cyflwyniad system o’r enw “Hypertext Transfer Protocol (secure)” - HTTPS - rhwng y cleient a gweinyddwyr gwe yn bodloni’r gofyniad hwn.

Bydd cyflwyno’r gwasanaeth XML y pryd hyn yn rhoi i ddefnyddwyr Software Filing ddigon o amser i ddatblygu’u systemau a’u pecynnau a threfnu iddynt fod ar gael i’w cleientydd.

Mae XML yn safon e-GIF (e-Government Interoperability Framework) ac argymhellir ei defnyddio ar bob rhyngwyneb gwe sy’n perthyn i’r llywodraeth.  Mae e-GIF yn hybu mabwysiadu XML yn safon gynradd at ddibenion integreiddio data a rheoli data drwy holl systemau’r sector cyhoeddus.

Brig
Ein polisi ar gwcis