Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 


Cwestiynau Mynych ynghylch Software Filing sy’n defnyddio XML

Beth yw XML?
Caiff eXtensible Markup Language (XML) ei reoli a’i oruchwylio gan Gonsortiwm y We Fydeang (W3C) a dyma bellach y mecanwaith sydd wedi’i dderbyn yn gyffredinol at ddibenion cyfnewid data dros y rhyngrwyd.  Dyma hefyd y safon e-GIF (e-Government Interoperability Framework) yr argymhellir ei dilyn gan asiantaethau llywodraeth mewn cymwysiadau gwe.

Beth yw Porth XML?
Mae Porth XML yn hwyluso cyrchu cronfeydd data Tŷ’r Cwmnïau ar-lein dros y rhyngrwyd, fel y gall cwsmeriaid gyflwyno yn ogystal â chasglu gwybodaeth gwmni drwy eu cymwysiadau neu eu tudalennau gwe eu hunain.

Sut dylwn i gofrestru ar gyfer Software Filing drwy Borth XML?
I gofrestru, bydd angen ichi lenwi Cais am Gyfrif Credyd ar gyfer Ffeilio Ar-lein a’i bostio i’r cyfeiriad sydd wedi’i nodi ar y ffurflen. Wrth dderbyn eich cais, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn creu cyfrif, yn pennu terfyn credyd ichi ac yn anfon atoch, mewn amlen ar wahân, Hunaniaeth Cyflwynydd a Chôd Dilysu Cyflwynydd yn gysylltiedig â’ch cyfrif.

Os oes gen i gyfrif cyfredol Software Filing, oes rhaid imi agor cyfrif credyd newydd i gael dechrau defnyddio’r gwasanaeth ffeilio XML?
Os ydych chi’n gwsmer presennol o dan wasanaeth Software Filing, ni fydd angen agor cyfrif newydd.

Alla i ddefnyddio fy nghyfrif allbwn Porth XML i ffeilio drwy feddalwedd?
O dan Borth XML mae eisiau trefn fewnlofnodi (a chyfrifon credyd) ar wahân ar gyfer cynhyrchion mewnbwn ac allbwn, er eu bod yn defnyddio’r un fynedfa.

 phwy y dylwn gysylltu am gyngor ynghylch datblygu’r gwasanaeth XML?
Mae’r Fanyleb Rhyngwyneb Technegol ar gael gan mconnors@companieshouse.gov.uk

Pam bod gwasanaeth cyfredol Software Filing (seiliedig ar system tagiau) yn cael ei ddileu?
Gyda dyfodiad Deddf Cwmnïau 2006, bydd yn ofynnol cadw cyfeiriadau preifat cyfarwyddwyr mewn ffordd ddiogel wedi’i hamgryptio o fis Hydref 2008 ymlaen. Bydd cyflwyniad gwasanaeth HTTPS (XML) yn helpu i fodloni’r gofyniad hwn ac yn darparu dull mwy effeithlon, diogel a chyflym o ffeilio data yn Nhŷ’r Cwmnïau a’u darllen yn ôl na’r gwasanaeth e-bost presennol sy’n defnyddio tagiau.

Pryd bydd y gwasanaeth cyfredol sy’n seiliedig ar system tagiau yn cael ei ddileu?
Bydd y ddwy system Software Filing yn rhedeg yn gyfochrog tan fis Hydref 2009 pan gaiff y gwasanaeth tagiau ei ddileu.

Beth yw manteision defnyddio gwasanaeth Software Filing XML?

  • Mae XML yn iaith diffinio rhyngwynebau agored/safonol drwy’r diwydiant.
  • Mae XML yn hwyluso rhyngwynebau system agored a chludadwy, ynghyd ag integreiddiad systemau.
  • Mae XML yn safon e-GIF (e-Government Interoperability Framework) ac argymhellir ei defnyddio ar bob rhyngwyneb gwe sy’n perthyn i’r llywodraeth.  Mae e-GIF yn hybu mabwysiadu XML yn safon gynradd at ddibenion integreiddio data a rheoli data drwy holl systemau’r sector cyhoeddus.
  • Ers o leia’r pump neu chwe blynedd diwethaf mae’r holl ddatblygwyr a dylunwyr gwe newydd mewn Prifysgolion a Cholegau yn cael eu hyfforddi mewn XML.
  • Mae safoni ar sail XML yn caniatáu i Dŷ’r Cwmnïau a datblygwyr allanol ddefnyddio’r offer datblygu a phrofi sydd ar gael yn y marchnadle.
  • Mynnir XML (yn fwy penodol, xbrl) i ffeilio cyfrifon o dan drefn Software Filing ac fel y cyfryw mae Tŷ’r Cwmnïau’n cydnabod ei fod ar hyn o bryd yn gofyn i ddarparwyr pecynnau feithrin dwy safon ryngwyneb.
  • Mae systemau Software Filing eraill yn Ewrop ac Iwerddon yn defnyddio rhyngwyneb XML.
  • Mae Tŷ’r Cwmnïau am feithrin dulliau cyfathrebu mwy diogel a rhoi i gwsmeriaid Software Filing wasanaethau gwe sydd, yn ôl eu dyluniad, yn defnyddio XML fel fformat data.
  • Mae Tŷ’r Cwmnïau am archwilio posibilrwydd lleihau’r baich ffeilio ar gwmnïau drwy gydgysylltu ag adrannau eraill o’r llywodraeth er mwyn cynnig cyfleoedd “ffeilio unigol”. Mae’r mwyafrif o adrannau eraill y llywodraeth (HMRC, HMLR) eisoes yn defnyddio XML.
  • Mae rhyngwynebau sydd wedi’u diffinio yn ôl XML yn cynnig ffordd fwy strwythuredig o orfodi rheolau rhyngwyneb ac, fel y cyfryw, gallent ostwng nifer yr ymholiadau a wneir gan gwsmeriaid/nifer y gwrthodiadau sy’n dod i’w rhan – gan leihau’r ymglymiad dynol a gwella’r amserau ymateb.
  • I Dŷ’r Cwmnïau, bydd XML yn golygu bod angen llai o drosi data’n fewnol, gan arwain at amserau ymateb cyflymach a llai o le i gamgymeriadau.

Materion Technegol

Dwy ddim yn deall sut i drosglwyddo’r ffeiliau hyn ichi i gael eu profi. Mae gen i’r URL ond dyw hwnnw’n gwneud dim byd yn ôl pob golwg. Dim ond camgymeriadau ga i wrth ei glicio.
Ni all Tŷ’r Cwmnïau roi unrhyw gyngor neu gefnogaeth o ran datblygu’ch meddalwedd. Ond gobeithiwn y bydd yr wybodaeth a’r enghreifftiau ar y tudalen gwe yn rhoi ichi’r cymorth sydd angen arnoch. Cyfeiriwch at y cyfarwyddyd ynghylch defnyddio XML sydd yn:
http://xmlgw.companieshouse.gov.uk/iface.shtml

Brig
Ein polisi ar gwcis