Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Pryd daw’r ffioedd newydd i rym?

Corffori

Mae’r ffi newydd yn berthnasol i unrhyw gais corffori sy’n dod i law ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny.

Mae’r ffi newydd yn gyfnewidiol am unrhyw ddogfennau corffori sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny ond sy’n cael eu gwrthod am unrhyw reswm, a’u dychwelyd i Dŷ’r Cwmnïau ar 6 Ebrill 2011 neu’n ddiweddarach.

Ffurflenni Blynyddol

Mae’r ffi newydd yn berthnasol am unrhyw ffurflen flynyddol, a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, sy’n dod i law ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny.

Mae’r  hen ffi yn berthnasol am unrhyw ffurflen flynyddol a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny. Mae’n berthnasol hefyd i bob ffurflen flynyddol a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 1985.

Mae’r ffi newydd yn gyfnewidiol am unrhyw ffurflenni blynyddol sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny ond sy’n cael eu gwrthod am unrhyw reswm, a’u dychwelyd i Dŷ’r Cwmnïau ar 6 Ebrill 2011 neu’n ddiweddarach.

Cyfrifon Tramor

Mae’r ffi newydd yn berthnasol am gyfrifon Cwmni Tramor a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, sy’n dod i law ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny.

Mae’r hen ffi yn berthnasol am gyfrifon Cwmni Tramor a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny. Mae’n berthnasol hefyd i gyfrifon Cwmni Tramor a gyflwynir o dan Ddeddf Cwmnïau 1985.

Mae’r ffi newydd yn gyfnewidiol am gyfrifon Cwmni Tramor sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny ond sy’n cael eu gwrthod am unrhyw reswm, a’u dychwelyd i Dŷ’r Cwmnïau ar 6 Ebrill 2011 neu’n ddiweddarach.

Atal gwybodaeth am gyfeiriad (adran 1088 o Ddeddf Cwmnïau 2006)

Mae’r ffi newydd yn berthnasol am geisiadau o dan adran 1088 sy’n dod i law ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny.

Dylid nodi mae’r ffi newydd yn gyfnewidiol am unrhyw gais o dan adran 1088 sy’n dod i law ar 5 Ebrill 2011 neu cyn hynny ond sy’n cael ei wrthod am unrhyw reswm, a’i ddychwelyd i Dŷ’r Cwmnïau ar 6 Ebrill neu’n ddiweddarach.

Brig
Ein polisi ar gwcis