Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Newidiadau WebFiling – 22 Ebrill 2012

Rydym yn falch o gyhoeddi bod gan gwasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau golwg a phrofiad newydd.

Y sgriniau newydd hyn yw un o gamau cyntaf gwelliannau i WebFiling. Maent wedi cael eu dylunio yn sgil adborth gan ein cwsmeriaid a phrofion i weld pa mor hawdd ydynt i'w defnyddio, a'u nod yw darparu profiad cliriach a symlach i bobl sy'n defnyddio WebFiling.

Mae'r sgriniau mewnlofnodi wedi cael eu symleiddio ac yn lle'r hen gyfeiriad at ‘cod diogelwch' defnyddir y term ‘cyfrinair', er mwyn sicrhau cysondeb geiriad ar draws ein holl wasanaethau.

sgrin mewnlofnodi newydd sgrin mewnlofnodi a dewis eich cwmni newydd

Yn lle'r ddewislen bresennol mae sgrin trosolwg cwmni newydd. Ar gipolwg gallwch weld cyfarwyddwyr eich cwmni, cadarnhau'ch dyddiadau ffeilio a gwirio bod eich cyfrifon a'ch ffurflenni blynyddol wedi cael eu diweddaru. Neu, os ydych angen rhestr lawn o ffurflenni i gwmnïau, mae rhestr A-Y ar gael.

sgrin trosolwg cwmni newydd

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi adborth ar newidiadau yn y dyfodol i'n gwasanaethau ar-lein, ystyriwch fod yn aelod o'n panel defnyddwyr.

Brig
Ein polisi ar gwcis