|
|
Gwelliannau i WebFiling 9 Gorffennaf 2012Ers dydd Llun 9 Gorffennaf 2012, mae mwy o welliannau wedi cael eu gwneud i'n gwasanaeth WebFiling, sy'n cynnwys: Gwelliannau i'r ffurflen we ar gyfer Cyfrifon Cwmnïau Segur
Rydym hefyd wedi cynnwys dolenni i'n harddangosiadau fideo ar-lein o'r ffurflenni mwyaf poblogaidd. Bellach gallwch fynd at yr arweiniadau defnyddiol hyn ar ddechrau'r Ffurflen Flynyddol, y Cyfrifon Cryno neu Gyfrifon Cwmni Segur. Rydym yn parhau i wrando ar adborth gan ein cwsmeriaid a gwneud gwelliannau i'n gwasanaeth WebFiling. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi adborth am newidiadau yn y dyfodol, beth am ystyried dod yn aelod o'n panel defnyddwyr?
|
|